Telerau ac amodau
Milfeddygfa Conway Road – Telerau ac Amodau
Diolch am ymddiried gofal eich anifail anwes i’r tîm ym Milfeddygfa Conway Road. Rydym yn ymrwymo i ddarparu gofal o’r safon uchaf i’n holl gleifion ac i gyfathrebu’n llawn â chi bob amser. Fel rhan o’r ymrwymiad yma mae’r ddogfen hon yn manylu ar ein Telerau ac Amodau yma yn y feddygfa. Mae croeso i chi, fodd bynnag, gysylltu â ni yn bersonol os oes rhywbeth yr hoffech ei drafod.
Oriau Agored ac Amseroedd Apwyntiadau
Rydym yn agored Dydd Llun tan Dydd Sadwrn ac yn rhedag ar system apwyntiad yn unig.
Mae’r apwyntiadau yn rhedeg fel y ganlyn;
- Bora dydd Llun i fore Gwener – 8:30yb-10:30yb
- Prynhawn dydd Llun i brynhawn Gwener – 4:00yh-6:30yh
- Bora dydd Sadwrn – 8:30yb-11:30yb
Mae’r oriau yng nganol y dydd yn cael i ddyranu i unrhyw llawdriniaeth sydd wedi ei gadarnhau ar y diwrnod hwnnw ag i unrhyw appwyntiad brys sydd angan ei gweld ar unwaith. Pan yn bosib, mi fydden hefyd yn gallu cynnig appwyntiad tu allan i’r amseroedd hyn.
Cysylltwch a’r feddygfa i drefnu’ch apwyntiad.
Gwasanaeth ‘Out of Hours’
Tu allan i oriau agored y feddygfa mae gwasanaeth ‘Out of hours’ yn gael ei redeg gan gwmni ‘Vets Now’ sydd wedi ei leoli ym milfeddygfa Prospect House, 110 Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 7PS. Os byddech angen cysylltu a Vets Now i ddefnyddio’i gwasanaeth, ei rhif ffon yw 01492 338082. Mae’r gawasanaeth yma yn rhedeg rhwng 7yh ac 8yb (dydd Llun tan ddydd Gwener) ac o 12yh prynhawn Sadwrn tan 8yb dydd Llun. Bydden hefyd yn rhedeg y gwasanaeth yma ar Ŵyl y Banc.
Mae hawl i unrhyw un ddefnyddio y gwasanaeth hwn tu allan i’n oriau agored mewn argyfwng. Mae yna gost o £219.45 ar ben y cost apwyntiad, sef £94.05. Yn ystod ei oriau agored bydd yna dîm bach ar gael gan gynnwys milfeddygon a staff nyrsio. Bydden nhw ar gael i ateb unrhyw ymholiadau ffôn ag i drin eich anifail anwes os oes problem brys na all ddisgwl tan oriau agored milfeddygfa Conway Road. Os oes angen apwyntiad mewn argyfwng neu driniaeth brys, fydd y staff yn gweithio drwy gydol y nos i ofalu am ei cleifion.
Nid ydym yn rhedeg gwasanaeth ‘Out of Hours’ ar safle ein hunain gan nad ydym yn darparu gofal claf dros nos. Fel rhan o polisi y cwmni mi fyddwn yn trosglwyddo unrhyw glaf sydd angen gofal dros nos i’n darparwr ‘Out of hours’, Vets Now. Mi fydden yn sicrhau bydd Vets Now yn cael yr holl ddogfennau angenrheidiol gan gynnwys copi llawn o nodiadau clinigol y claf, unrhyw ganlyniadau profion gwaed neu pelydr-x sydd yn berthnasol. Mi fydden hefyd yn sicrhau eu bod nhw yn cael ei gludo’n ddiogel i safle Vets Now.
Ffioedd a Telerau Talu
Mae’r holl ffioedd, taliadau bwyd a meddyginiaeth yn destun i TAW ar y gyfradd gyfredol. Mae cost unrhyw driniaeth yn benderfynol ar amser a dreulir yn trin y claf ag unrhyw meddyginiaeth, deunyddiau a nwyddau a ddefnyddir yn y triniaeth. Rydym yn fwy na pharod i ddarparu ag argraffu copi o’r costau i chi gadw. Ni fyddwn yn gallu rhoid unrhyw feddyginiaeth neu gynnyrch yn cynnwys bwyd os nid oes modd o dalu gennych tra’n ei casglu.
Rydym yn hapus i rhoid amcangyfrif ysgrifenedig o’r costau disgwyliedig o’r triniaeth, ymchwiliadau neu llawdriniaeth sydd ei angan. Mae’n rhaid cofio efo natur anrhagweladwy gwaith clinigol bod y cost disgwyliedig yn gallu amrywio a mae’n bwysig eich bod chi fel cleient yn ymwybodol o hyn. Lle’n bosib, mi fydden yn cysylltu a’r cleient os bydd y costau yn sylweddol fwy na roedd wedi’i drafod, er bydd hyn ddim bob tro’n bosib mewn argyfwng meddygol.
Gofynnir am daliad llawn gan y cleient cyn gadel y feddygfa ar ôl unrhyw driniaeth, wrth gasglu ei anifail anwes arol llawdriniaeth neu wrth gasglu unrhyw feddyginiaeth. Mae hyn wedi ei nodi ar y ffurflen caniatau sydd angen ei llofnodi gan y cleient cyn i’r feddygfa dderbyn claf am lawdriniaeth neu wrth dderbyn claf o dan ein gofal. Ni allwn ddosbarthu unrhyw feddyginiaeth heb modd o dalu wrth ei gasglu. Derbynnir arian parod, sieciau, cardiau debyd a chredyd. Nid ydym yn cynnig unrhyw gynlluniau talu na unrhyw fodd o dalu mewn rhandaliadau.
Yswiriant
Yn Milfeddygfa Conway Road rydym yn argymell yn gryf ag yn cefnogi’r egwyddor o ysiwirio eich anifeiliad anwes rhag unrhyw salwch neu ddamweiniau. Rydym yn fwy na pharod i anfon eich ffurflen yswiriant anuniongyrchol ar eich rhan i’r cwmni a ddewisiad gennych am unrhyw salwch neu ddamwain. Mi wnewn i hyn yn brydlon i sicrhau cewch eich ad-daliad cyn gynted â phosib.
Dim ond yn ôl disgresiwn y milfeddyg y bydd ceisiadau uniongyrchol yn cael eu brosesu. Os yw hawliad uniongyrchol wedi’i ganiatau yna bydd angen i’r cleient ddarparu ei holl ddogfennau polisi diweddar cyn cael unrhyw driniaeth. Bydd adolygiad o’r dogfennau polisi yn penderfynu â all y feddygfa fwrw ymlaen â chwblhau’r driniaeth ai peidio. Bydd angen i’r feddygfa hefyd gael caniatad llawn i siarad a’r cwmni yswiriant dros y ffôn gan y bydd angen i ni gadarnhau manylion polisi gyda nhw yn uniongyrchol hefyd.
Mae yna nifer o gwmnïau na fyddwn yn gallu prosesu hawliad uniongyrchol gyda nhw, mae’r rhain fel a ganlyn: E&L, Petinsurance.co.uk, Animal Friends, Scratch & Patch, Knowles & Richards, We Love Pets , Planet Direct, Perfect Pets a The Insurance Emporium.
Plis nodwch pan fyddwn yn siarad â chwmni yswiriant ni allant byth warantu unrhyw hawliadau dros y ffôn ac felly wrth gytuno i hawliad uniongyrchol, nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am eich cwmni yswiriant yn talu am y driniaeth a ddarparwyd. Os nad yw wedi’i setlo ar ôl pedair wythnos ar ôl i’r hawliad gael ei gyflwyno i’ch cwmni yswiriant, yna byddwn angen taliad llawn gan y cleient.
Prescripsiwn
Mae polisi y feddygfa yn gofyn i ail-asesu unrhyw anifail sydd angen presgripsiwn ailadroddus bob tair mis, ond gall hyn amrywio yn ôl amgylchiadau unigol. Sylwer bod angen cynnal profion gwaed ar rai anifeiliad sydd ar feddyginiaeth tymor hir i sicrhau eu bod ar y cryfder cywir or feddyginiaeth.
Gofwn yn garedig i chi, lle’n bosib i roid 24 awr o rybudd i ni am ailarchebion meddyginiaeth neu am bresgripsiwn bwyd. Fel hyn gallwn sicrhau bod y swm cywir or feddyginiaeth neu y bwyd cywir i fewn i chi gasglu y diwrnod canlynol. Mae’n bosib bydd rhai meddyginiaethau yn cael ei ordro mewn i’r feddygfa yn arbenig er mwyn trin eich anifail chi yn unig, yn y sefyllfa yma byddwn yn gofyn am taliad llawn cyn i ni archebu’r feddyginiaeth, hyd yn oed os na ddefnyddwyd na chasglyd gennym.
Ni rydym yn cadw bwyd presgripsiwn yn y feddygfa ond rydym fwy na barod i’w archebu fewn erbyn y diwrnod canlynol yn ystod yr wythnos. Os na chaiff y bwyd ei gasglu o fewn wythnos o gyrraedd y feddygfa fydd rhaid i ni ei ddychwelyd yn ôl i’r cyflenwr. Mae’r cyflenwr ond yn cymryd bwyd presgripsiwn yn ôl am ddeg diwrnod ar ôl iddynt gyrraedd y feddygfa felly mae’n rhan o polisi y cwmni i’w ddychwelyd ynol yn yr amser yma. Mae groeso i’r cleient ail-archebu’r bwyd os oes angen.
Gellir ddarparu pregripsiwn ysgrifenedig i archebu eich prescripsiwn ar lein ar gais am ffi o £12.35. Mae rhaid talu y cost llawn wrth gasglu y prescripsiwn ysgrifenedig. Os ydych yn dymuno cael presgripsiwn ysgrifenedig ar gyfer meddyginiaeth eich anifail anwes rhaid i chi ddod â’ch anifail anwes i gael ei weld ar gyfer ymgynghoriadau rheolaidd o leiaf bob tri mis. Os na fyddwch yn cydymffurfio â hyn, ni fyddwn yn gallu darparu y presgripsiwn.
Plis sylwer na allwn dderbyn unrhyw feddyginiaeth yn ôl unwaith maent wedi gadael y feddygfa gan ni allwn eu ail gwerthu. Rydym yn hapus, fodd bynnag i chi ddychwelyd unrhyw brescripsiwn wedi dyddio neu ddim yn cael ei ddefnyddio yn ôl i’r feddygfa a mi wnawn ni eu waredu yn ddiogel. Gwybodaeth ynghlyn a’r prescripsiynau;
- Ffi o £12.35 am bresgripsiwn ysgrifenedig
- Gallwch ordro a casglu meddyginiaeth categori POM-V gan eich milfeddyg NEU cewch ofyn am brescripsiwn ysgrifenedig i’w ordro ar lein, gan milfeddyg arall neu o unrhyw fferyllfa
- Gall milfeddyg ond ragnodi prescripsiwn POM-V i anifeiliad sydd odan eu gofal
- Efallai bydd presgripsiwn ddim yn addas os mae’r anifail yn aros i mewn am driniaeth neu os maen’t angen triniaeth brys.
- Rhoddir cost y meddyginiaeth i chi os gofynnwyd
- Polisi y feddygfa yw ailasesu unrhyw anifail sydd angen prescripsiwn ailadroddus bob tri mis, ond gall hyn amrywio yn yn ôl amgylchiadau unigol. Y tâl safonol am ymgynghoriad ar gyfer ail feddyginiaeth yw £49.50. Mae rhagor o wybodaeth am brisiau meddyginiaethau ar gael ar gais.
Cwynion
Rydym yn ymfalchïo mewn cynnig gwasanaeth o safon uchel i’n cleientiaid a’u hanifeiliaid anwes. Os na fyddwn yn cwrdd â’ch disgwyliadau ar unrhyw agwedd o’n gwasanaeth ar unrhyw adeg, yna trafodwch gyda’r milfeddyg cyn gynted â phosibl. Bydd Milfeddygfa Conway Road yn dilyn eu protocol er mwyn datrys unrhyw gwynion neu broblemau a ddaw o’r gwasanaeth a dderbynwyd.
Fel busnes milfeddygol, mae rhaid i’n milfeddygon a nyrsus milfeddygol gydymffurfio a’r ‘Royal College of Veterinary Surgeons (RCVS) Code of Professional Conduct’. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch ymddygiad unrhyw aelod o staff a tydech heb fedru datrys y broblem yn y feddygfa, gallwch gysylltu â’r RCVS yn uniongyrchol ar eu gwefan www.rcvs.org.uk i gael rhagor o fanylion am sut i rhoid cwyn.
Mynediad a Phernogaeth o Gofnodion Clinigol
Rydym yn gweithio yn unol â chanllawiau yr RCVS.
Mae cofnodion clinigol a dogfennau cleientiaid, gan gynnwys lluniau pelydr-x yn eiddo i Filfeddygfa Conway Road, a dylent eu cadw er bydd gorau yr anifail ac ar gyfer cofnodion ein hunain. Os yw y cleient yn rhoid cais am ail farn neu yn symyd i gael triniaeth mewn Milfeddyg arall, fe allwn drosglwyddo yr holl dogfennau i’r Filfeddygfa newydd ar gais y cleient.
Diogelu Data
Mae Milfeddygfa Conway Road yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 a bydden yn cymeryd rhagofalon rhesymol i sicrhau bod eich data yn gael ei gadw’n ddiogel, gael ei ddefnyddio’n briodol a ddim yn cael ei rannu gyda partion erill oni bai bod angen defnyddio gwasanaeth casglu dyledion, cynghorydd cyfrieithiol, cwmniau yswiriant, hyfforddwyr cŵn, milfeddygon ‘referral’ a.y.y.b. ag unrhyw gwmni neu parti arall a chytynwyd a’r cleient.
Mae gan y cleient yr hawl i dynnu eu caniatâd i brosesu ei ddata yn ôl ar unrhyw adeg. Mae ganddynt yr hawl i gael mynediad at eu data ar unrhyw adeg a hefyd yr hawl i gywiro neu ddileu unrhyw ddata a gynhelir gennym ni. Mae gan y cleient yr hawl i gyfyngu ar unrhyw symudiad neu brosesu o’u data.
Wrth gofrestru eich anifail anwes gyda Milfeddygfa Conway Road rydych yn rhoi data o’ch ewyllys eich hun ac wedi dewis yn agored i ddefnyddio’r Filfeddygfa hon i drin eich anifeiliaid. Ar adeg cofrestru eich anifail anwes byddwn yn sicrhau bod yr holl data sydd gennym ar ffeil yn gywir a byddwn yn cael llofnod gan y cleient yn cytuno i Ddeddf Diogelu Data 2018. Bydd y llofnodion hyn yn cael eu gadw ar ffeil a chofnod o’r cleientiaid sydd wedi llofnodi’r Ddeddf Diogelu Data yn cael eu gosod ar eu cofnodion unigol ar ein system gyfrifiadurol fewnol.
Mae canllawiau cyffredinol ar GDPR ar gael ar wefan RCVS yn:
https://www.rcvs.org.uk/document-library/gdpr-rcvs-information-and-qandas/